Cymraeg | English

Prosiectau

Mae Rheoli Prosiectau yn faes arbenigol gan Wasanaethau Trydanol a Mecanyddol Cyf (GAP) .

Rydym ni yng Ngwasanaethau Trydanol a Mecanyddol Cyf (GAP) yn deall mai trefnu a rheoli adnoddau (e.e. pobl) mewn modd sy’n sicrhau fod y prosiect yn cael ei gyflawni o fewn ffiniau amrediad, safon, amser ac arian, yw’r ddisgyblaeth o reoli prosiect. Ymgais unigol a thros dro yw prosiect a gaiff ei weithredu er mwyn creu cynnyrch neu wasanaeth unigryw, sy’n dod â newid er gwell neu gynnydd mewn gwerth yn ei sgîl. Yn aml bydd dwy system yn wahanol iawn a bydd angen sgiliau a meddylfryd amrywiol arnynt, ac felly’r angen tros ddatblygu maes rheoli prosiectau.

Felly, mae GAP yn darparu gwasanaeth gyflawn o egin syniad at ei diwedd, o dderbyn prosiect o’r Cam Cynllunio hyd at gyflawni’r gwaith Sifil, darparu gwaith dur cynhaliol a Gwaith Gosod Trydanol. Mae hyn yn cynorthwyo ein cwsmeriaid am fod ganddynt un cyswllt arbennig, tra’n bod ninnau’n rheoli’r holl brosiect o’r dechrau i’r diwedd.

 

Prosiect di-wifr i’r Grid Cenedlaethol ~ YrAlban
Dyma enghraifft o un o dri prosiect di-wifr i’r Grid Cenedlaethol oedd yn ein gofal yn yr Alban. Gwaith oedd yn cynnwys drilio a gosod angorion resin er mwyn gosod polyn newydd unigol telathebu, defnyddiwyd personèl Gap a chontractwyr arbenigol

Prosiect yn Rossendale, Sir Caerhirfryn
Yn y prosiect hwn yn Rossendale, Sir Caerhirfryn, gwnaethpwyd gwaith gosod trydanol o gistiau newydd a gosod ceblau cyflenwol. Roedd hyn yn galluogi’r tîm i wneud gwaith drilio sylfaenol oedd wedyn yn galluogi i waith mecanyddol gosod y sylfeini ar gyfer y polyn unigol ddigwydd.

Prosiect gosod systemau 'Airwave'
Mae Gap wedi cyflawni gwaith cychwynol i osod Airwave, sef generadur nwy wrth gefn i system gyfathrebu’r gwasanaethau brys. Roedd y prosiectau hyn yn cynnwys gwaith sifil, trydanol a gwaith gwarchod rhag mellt.

Safleoedd Peilon foltedd uchel y Grid Cenedlaethol.
Mae’r prosiectau yma’n cynnwys darparu, gwneud a gosod rhwylli wedi’u hinsiwleiddio er mwyn mowntio offer client. Tîm Gap a wnaeth y gwaith trydanol a’r gwaith gosod mecanyddol i sicrhau bod y prosiectau hyn yn cael eu cyflawni.

Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn oeddech eisiau, os na wnaethoch, cysylltwch â ni’n ddiymdroi.
Diolch am ymweld â’n safwe.