Cymraeg | English

 

Cynnal a chadw

Mae gwaith cynnal a chadw yn faes arbenigol gan Wasanaethau Trydanol a Mecanyddol Cyf (GAP).

Mae gan ein personèl flynyddoedd lawer o brofiad ym maes cynnal a chadw Twneli Ffyrdd Diwydiannol, Trydanol a Mecanyddol. Mae hyn yn cynnwys datblygu a gweithredu systemau Cynnal a Chadw Rheoli.

Gall ein tîm gyflawni tasgau gan gynnwys dadansoddiadau ysgrifenedig ac argymhellion.

Rydym wrthi’n gweithio ar brosiectau cynnal a chadw mewn amryw o safleoedd ledled y DU, i gleientiaid ym maes Telathrebu, Systemau Twneli Ffyrdd ac offer hysbysebu trydanol blaengar i ganol dinasoedd.

Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod sut gallwn reoli a chynnal eich offer chi.

Diolch am ymweld â’n safwe.

Atgyweirio ar fyr rybydd

Gellir cysylltu â GAP 24ain awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar fyr rybydd i unrhyw le o fewn y DU, gan ymateb i anghenion y cwsmer. Mae hyn yn sicrhau y gall y cwsmeriaid ddarparu eu gwasanaeth hwy yn ôl gofynion eu busnesi.

Mae ein gwasanaethau brys yn cynnwys diogelu offer, diogelu asedau o fewn gwaith gosod cwsmeriaid. Mae’r gwasanaeth a gynigia GAP yn cynnws gwaith atgyweirio brys ac argymhellion i’r cwsmer. Os bydd angen, byddwn yn dychwelyd er mwyn cyflawni’r gwaith.