Amdanom Ni

Sefydlwyd Gwasanaethau Trydanol a Mecanyddol GAP Cyf (GAP) yn 2003 ac mae’r pencadlys yng Nghonwy, Gogledd Cymru. Mae GAP yn arbenigo mewn gwaith gosod a chynnal a chadw systemau ac offer trydanol a mecanyddol yn ogystal a rheoli prosiectau. Mae’r swyddfeydd mewn lleoliad cyfleus iawn, ger yr A55 yng Nghonwy.
Mae personèl GAP yn brofiadol mewn meysydd megis Peirianneg Cynhyrchu Mecanyddol, Rheoli Prosiectau a Phrosiectau Gosod/Cynnal a Chadw, yn ogystal â gwaith cynnal a chadw twneli, a gwaith ar rwydwaith isadeiledd y traffyrdd.
Yn fwy diweddar, mae cytundebau wedi eu sefydlu gyda Chwmnïau sy’n gwasanaethu’r Grid Cenedlaethol di-wifr, sy’n berchen ac sy’n trin yr isadeiledd telathrebu ledled y DU. Mae hyn yn golygu gweithio mewn unrhyw le o fewn y DU, nid Gogledd Cymru yn unig.
Mae GAP hefyd yn gobeithio cael archwiliad fydd yn ardystio eu bod yn cydymffurfio ag ISO 9001 a 14001.
Mae gennym achrediad NICEIC (National Inspection Council for Electrical Installation Contractors) ac rydym yn cyrraedd nod Ymddiriedolaeth y Llywodraeth er safonau ardystiedig.
![]() |
![]() |
![]() |
Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn oeddech eisiau, os na wnaethoch, cysylltwch â ni’n ddiymdroi.
Diolch am ymweld â’n safwe.


